RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

I10I12I2I8I13I5I9I11I7I1I6I3I4I1417Dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn

1

Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

a

bo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn sy’n derbyn gofal sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, neu

b

bo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn y mae’n gyfrifol amdano, ond sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol arall, anghenion dysgu ychwanegol.

2

Rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol atgyfeirio’r mater i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn.