Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

20Darpariaeth ddysgu ychwanegol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff y cyrff a bennir yn is-adran (2) atgyfeirio mater i gorff GIG, gan ofyn iddo ystyried a oes unrhyw driniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc.

(2)Y cyrff yw—

(a)pan fyddai’r atgyfeiriad yn ymwneud â phlentyn, neu â pherson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, awdurdod lleol;

(b)pan fyddai’r atgyfeiriad yn ymwneud â pherson ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, y corff sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc.

(3)Ond ni chaiff corff wneud atgyfeiriad o dan is-adran (1) oni bai—

(a)ei fod wedi rhoi gwybod i’r plentyn neu i’r person ifanc ac, yn achos plentyn, i riant y plentyn, ei fod yn bwriadu gwneud yr atgyfeiriad,

(b)ei fod wedi rhoi cyfle i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, i riant y plentyn, i drafod a ddylai’r atgyfeiriad gael ei wneud, ac

(c)ei fod wedi ei fodloni bod gwneud yr atgyfeiriad er lles pennaf y plentyn neu’r person ifanc.

(4)Os caiff mater ei atgyfeirio i gorff GIG o dan yr adran hon, rhaid i’r corff GIG ystyried a oes triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc.

(5)Os yw’r corff GIG yn nodi triniaeth neu wasanaeth o’r fath, rhaid iddo—

(a)sicrhau’r driniaeth neu’r gwasanaeth ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc,

(b)penderfynu a ddylai’r driniaeth gael ei darparu neu a ddylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, ac

(c)os yw’n penderfynu y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu i’r person ifanc, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y driniaeth yn cael ei darparu neu fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn Gymraeg.

(6)Yn yr adran hon, ac yn adran 21, ystyr “triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol” yw unrhyw driniaeth neu wasanaeth y byddai corff GIG fel arfer yn ei darparu neu yn ei ddarparu fel rhan o’r gwasanaeth iechyd cynhwysfawr yng Nghymru a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42).