xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2LL+CCYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Darpariaeth ddysgu ychwanegol a chyrff y GIGLL+C

21Cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIGLL+C

(1)Os yw corff GIG yn nodi triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc yn dilyn atgyfeiriad o dan adran 20 rhaid iddo—

(a)rhoi gwybod i’r corff a atgyfeiriodd y mater am y driniaeth honno neu’r gwasanaeth hwnnw,

(b)os nad corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc a atgyfeiriodd y mater, roi gwybod i’r corff sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol am y driniaeth honno neu’r gwasanaeth hwnnw, ac

(c)os yw’n ystyried y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, roi gwybod i’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(2)Os nad yw corff GIG yn nodi triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc yn dilyn atgyfeiriad o dan adran 20 rhaid iddo—

(a)rhoi gwybod i’r corff a atgyfeiriodd y mater am y ffaith honno, a

(b)os nad corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc a atgyfeiriodd y mater, roi gwybod i’r corff sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol am y ffaith honno.

(3)Os yw corff GIG yn hysbysu corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc fod triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol yn debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, rhaid i’r corff sy’n cynnal y cynllun ddisgrifio’r driniaeth neu’r gwasanaeth yn y cynllun, gan bennu bod y driniaeth neu’r gwasanaeth yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i gael ei sicrhau gan y corff GIG.

(4)Os yw corff GIG yn hysbysu corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc y dylai triniaeth berthnasol gael ei darparu neu y dylai gwasanaeth perthnasol gael ei ddarparu yn Gymraeg i blentyn neu berson ifanc, rhaid i’r corff sy’n cynnal y cynllun bennu yn y cynllun fod y driniaeth neu’r gwasanaeth yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddylai gael ei darparu yn Gymraeg.

(5)Os yw cynllun datblygu unigol yn pennu o dan yr adran hon fod darpariaeth ddysgu ychwanegol i gael ei sicrhau gan gorff GIG, nid yw’r dyletswyddau a ganlyn yn gymwys i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno—

(a)dyletswydd corff llywodraethu i sicrhau darpariaeth o dan adran 12(7) (gan gynnwys y ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg);

(b)dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau darpariaeth o dan adran 14(10)(a) a’r ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg o dan adran 14(10)(c);

(c)dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau darpariaeth o dan adran 19(7)(a) a’r ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg o dan adran 19(7)(c).

(6)Ni chaniateir i’r disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir mewn cynllun o dan yr adran hon fel darpariaeth y mae corff GIG i’w sicrhau gael ei ddileu neu ei newid ond ar adolygiad o gynllun yn unol ag adran 23 neu 24 ac â chytundeb neu ar gais y corff GIG.

(7)Os yw’r corff GIG, ar adolygiad o gynllun, yn gofyn i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc ddileu neu newid y disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun o dan yr adran hon fel darpariaeth y mae’r corff GIG i’w sicrhau, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais.

(8)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar bŵer Tribiwnlys Addysg Cymru i wneud gorchymyn o dan y Rhan hon.

(9)Os yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gorchymyn i gynllun datblygu unigol gael ei ddiwygio mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir o dan yr adran hon fel darpariaeth y mae corff GIG i’w sicrhau, nid yw’n ofynnol i gorff GIG sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ddiwygiedig oni bai ei fod yn cytuno i wneud hynny.

(10)Rhaid i reoliadau ddarparu, pan fo corff GIG o dan ddyletswydd i roi gwybod o dan is-adran (1) neu (2), fod rhaid iddo gydymffurfio â’r ddyletswydd honno o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 21 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(b)

I3A. 21 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 21 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I5A. 21 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I6A. 21 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I7A. 21 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I8A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I9A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I10A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I11A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I12A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I13A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4

I14A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3

I15A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)