xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae is-adran (3) yn gymwys pan—
(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan adran 12(1) neu 12(3), a
(b)bo unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn is-adran (2) yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ystyried cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.
(2)Y personau yw—
(a)y plentyn neu’r person ifanc,
(b)yn achos plentyn, rhiant y plentyn, neu
(c)y corff llywodraethu.
(3)Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol a gynhelir gan y corff llywodraethu.
(4)Pan fo corff llywodraethu yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am y cais a gwahodd sylwadau.
(5)Pan fo plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.
(6)Caiff awdurdod lleol benderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir os yw’n penderfynu o dan adran 27(6) y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio.
(7)Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, a’r corff llywodraethu am—
(a)penderfyniad o dan is-adran (3) neu (6), a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(8)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun—
(a)mae i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, a
(b)nid yw’n ofynnol i’r corff llywodraethu ei gynnal,
o’r dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (7).