xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2LL+CCYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Peidio â chynnal cynlluniauLL+C

31Peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigolLL+C

(1)Mae dyletswydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan adran 12 yn peidio â bod yn gymwys—

(a)yn achos plentyn neu berson ifanc, os yw’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, neu

(b)yn achos plentyn, os yw’r plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(2)Mae’r ddyletswydd ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach o dan adran 12 i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer person ifanc yn peidio â bod yn gymwys os yw’r plentyn ifanc yn peidio â bod wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad.

(3)Mae’r ddyletswydd ar awdurdod lleol o dan adran 14 i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn peidio â bod yn gymwys—

(a)yn achos plentyn neu berson ifanc, os yw’r awdurdod lleol yn peidio â bod yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, neu

(b)yn achos plentyn, os yw’r plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(4)Mae’r ddyletswydd ar awdurdod lleol i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 19 yn peidio â bod yn gymwys—

(a)os yw’n peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal at ddibenion y Rhan hon (pa un ai am ei fod yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol neu fel arall (gweler adran 15)), neu

(b)os yw’n peidio â bod yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

(5)Pan fo gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach ddyletswydd o dan y Rhan hon i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, caiff y corff llywodraethu beidio â chynnal y cynllun os yw’n penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach.

(6)Pan fo gan awdurdod lleol ddyletswydd o dan y Rhan hon i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, caiff yr awdurdod beidio â chynnal y cynllun os yw’r awdurdod—

(a)yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach, neu

(b)yn achos person ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir nac wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, yn penderfynu yn unol â rheoliadau o dan adran 46 nad oes angen cynnal y cynllun mwyach i ddiwallu anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant.

(7)Cyn i gorff llywodraethu benderfynu o dan is-adran (5), neu i awdurdod lleol benderfynu o dan is-adran (6), rhaid iddo hysbysu—

(a)y plentyn neu’r person ifanc,

(b)yn achos plentyn, rhiant y plentyn, ac

(c)yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, swyddog adolygu annibynnol y plentyn

ei fod yn bwriadu gwneud penderfyniad o’r fath.

(8)Ar ôl i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol wneud ei benderfyniad, rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, yn achos plentyn, rhiant y plentyn ac, yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(9)A rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir hefyd hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am ei hawl i ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y mater o dan adran 32.

(10)Gweler adran 44 (darpariaethau nad ydynt yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth) am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd i gynnal cynllun yn peidio.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 31 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I3A. 31 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 31 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I5A. 31 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I6A. 31 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I7A. 31 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I8A. 31 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I9A. 31 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)

I10A. 31 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I11A. 31 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I12A. 31 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4

I13A. 31 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I14A. 31 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3