RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2LL+CCYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Peidio â chynnal cynlluniauLL+C

33Cyfyngiad ar beidio â chynnal cynlluniau er mwyn caniatáu ailystyriaeth neu apêlLL+C

(1)Ni chaiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 31(5) oni bai bod is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r cyfnod a ragnodir o dan adran 32(1)(b) wedi dod i ben ac nad oes cais wedi ei wneud o dan yr adran honno.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 32 y dylai’r cynllun beidio â chael ei gynnal ac—

(a)bod y cyfnod a ragnodir o dan adran 75 y caniateir i apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol gael ei dwyn ynddo wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn, neu

(b)bod apêl wedi ei dwyn cyn diwedd y cyfnod a ragnodir o dan adran 75, a dyfarnwyd yn llawn arni.

(4)Ni chaiff corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach sy’n gweithredu o dan adran 31(5), neu awdurdod lleol sy’n gweithredu o dan adran 31(6), beidio â chynnal cynllun datblygu unigol tan pa un bynnag o’r canlynol sydd ddiweddaraf—

(a)bod y cyfnod a ragnodir o dan adran 75 y caniateir i apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chynnal y cynllun gael ei dwyn ynddo wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn, neu

(b)bod apêl wedi ei dwyn cyn diwedd y cyfnod a ragnodir o dan adran 75, a dyfarnwyd yn llawn arni.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 33 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I3A. 33 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I4A. 33 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(c), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I5A. 33 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I6A. 33 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I7A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I8A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(c), 3

I9A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I10A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I11A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(c), 4

I12A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(c)

I13A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I14A. 33 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(c) (ynghyd ag erglau. 4-22)