Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

35Trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys os—

(a)yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru,

(b)yn union cyn i’r plentyn neu’r person ifanc ddod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu ysgol arall a gynhelir, ac

(c)na fwriedir i addysg neu hyfforddiant barhau i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc yn yr ysgol arall honno.

(2)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys os—

(a)yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,

(b)oedd y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arall a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol arall ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (2) (a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.

(4)Mae is-adran (6) yn gymwys os—

(a)yw person ifanc yn ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,

(b)oedd y person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.

(5)Yn is-adran (4)(a) a (b), ystyr “blwyddyn academaidd” yw unrhyw gyfnod rhwng 1 Awst a 31 Gorffennaf.

(6)Rhaid i gorff llywodraethu’r sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os—

(a)yw awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, a

(b)yn union cyn i’r awdurdod ddod yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 14 gan awdurdod lleol arall.

(8)Rhaid i’r awdurdod lleol a grybwyllir yn is-adran (7)(a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon.

(9)Mae is-adran (10) yn gymwys os—

(a)yw plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)yn union cyn i’r plentyn ddod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 12 neu 14.

(10)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).

(11)Mae is-adran (12) a (13) yn gymwys os—

(a)yw person yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (pa un ai am ei fod yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol neu fel arall (gweler adran 15)),

(b)yw awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, ac

(c)yn union cyn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 19.

(12)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol.

(13)Mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).