RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Trosglwyddo cynlluniau

I6I15I10I2I7I1I14I4I9I3I5I11I13I8I1236Cais i drosglwyddo cynllun i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

2

Caiff yr awdurdod lleol ofyn i gorff llywodraethu’r sefydliad ddod yn gyfrifol am gynnal y cynllun.

3

Os yw’r corff llywodraethu yn methu â chytuno i’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylai corff llywodraethu’r sefydliad addysg bellach gynnal y cynllun.