RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2LL+CCYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C

39Ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” a thermau allweddol eraillLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon—

  • mae i “awdurdod cartref” yr ystyr a roddir i “home authority” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (2);

  • mae i “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” yr ystyr a roddir i “beginning of the detention” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996;

  • mae i “llety ieuenctid perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant youth accommodation” gan adran 562(1A)(b) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” (“detained person”) yw plentyn neu berson ifanc—

    (a)

    sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

    (b)

    sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr,

    ac mewn darpariaethau sy’n gymwys pan gaiff person ei ryddhau mae’n cynnwys person a oedd, yn union cyn ei ryddhau, yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)i baragraff (a) o’r diffiniad o “home authority” yn adran 562J(1) o Ddeddf Addysg 1996 (awdurdod cartref plentyn sy’n derbyn gofal) fod yn gymwys gydag addasiadau at ddibenion y Rhan hon;

(b)i ddarpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 562J(4) o Ddeddf Addysg 1996 fod yn gymwys gydag addasiadau neu hebddynt at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 39 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(d)