xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod cartref yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall—
(a)y gall fod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a
(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw gan awdurdod lleol o dan adran 42.
(2)Rhaid i’r awdurdod—
(a)penderfynu a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a
(b)os yw’n penderfynu bod gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, benderfynu yn unol â rheoliadau o dan adran 46 a fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau er mwyn diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am addysg neu hyfforddiant.
(3)Cyn i’r awdurdod cartref wneud ei benderfyniad rhaid iddo wahodd y person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol i fod yn rhan o’r penderfyniad ac, os oes angen cynllun datblygu unigol, yn rhan o’r gwaith o lunio cynllun datblygu unigol.
(4)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu nad oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol neu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo hysbysu’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad.
(5)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol ac y bydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo—
(a)llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a
(b)rhoi copi o’r cynllun i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.
(6)Os yw’r awdurdod cartref yn llunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—
(a)penderfynu a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a
(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.
(7)Os na fydd yn bosibl diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol pan gaiff ei ryddhau oni bai bod yr awdurdod cartref hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (8), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.
(8)Y mathau o ddarpariaeth yw—
(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;
(b)bwyd a llety.
(9)O ran y ddyletswydd yn is-adran (7)—
(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;
(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.