Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

45Cadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983LL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan, oherwydd adran 44 neu adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56), na fo pwerau neu ddyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon i neu ar awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc—

(a)sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(b)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20).

(2)Caiff rheoliadau ddarparu i’r pwerau neu’r dyletswyddau hynny gael eu cymhwyso, gydag addasiad neu hebddo, mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 45 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(e)