47Dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—
(a)sydd ag anghenion dysgu ychwanegol,
(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer, ac
(c)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
(2)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r ysgol neu’r sefydliad, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc yn galw amdani yn cael ei gwneud.
(3)Rhaid i’r Cod o dan adran 4 gynnwys canllawiau ynghylch arfer y swyddogaeth yn is-adran (2) yn ystod y cyfnod y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ynddo ar gyfer plentyn neu berson ifanc ond nad yw wedi ei roi.
(4)Mae is-adran (5) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—
(a)y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer gan awdurdod lleol, a
(b)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
(5)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd) gymryd pob cam rhesymol i helpu’r awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 47 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(c)
I3A. 47 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I4A. 47 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I5A. 47 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I6A. 47 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I7A. 47 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(f), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I8A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I9A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-25)
I10A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(f), 4
I11A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(f), 3
I12A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(f)
I13A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I14A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I15A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)