Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

47Dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)sydd ag anghenion dysgu ychwanegol,

(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer, ac

(c)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r ysgol neu’r sefydliad, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc yn galw amdani yn cael ei gwneud.

(3)Rhaid i’r Cod o dan adran 4 gynnwys canllawiau ynghylch arfer y swyddogaeth yn is-adran (2) yn ystod y cyfnod y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ynddo ar gyfer plentyn neu berson ifanc ond nad yw wedi ei roi.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer gan awdurdod lleol, a

(b)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(5)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd) gymryd pob cam rhesymol i helpu’r awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir ynddo.