RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 1TERMAU ALLWEDDOL, Y COD A CHYFRANOGIAD

Cod ymarfer

5Y weithdrefn ar gyfer gwneud y cod

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 4, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ar ddrafft o’r cod—

(a)pob awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(c)corff llywodraethu pob sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru;

(d)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(e)Comisiynydd Plant Cymru;

(f)Comisiynydd y Gymraeg;

(g)y pwyllgor perthnasol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru y mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys addysg plant a phobl ifanc;

(h)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cod oni bai bod drafft ohono wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu cymeradwyo drafft o’r cod—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)(b)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y cod i rym.

(6)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god yn cynnwys cod diwygiedig.

(7)Caniateir i’r gofyniad i ymgynghori a osodir gan is-adran (1) gael ei fodloni drwy gynnal ymgynghoriad cyn y daw’r Rhan hon i rym.