RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall

I9I14I13I3I2I6I4I8I7I5I11I12I1I1052Plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir

1

Pan fo plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yng Nghymru, rhaid i’r rheini sy’n ymwneud â gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer y plentyn sicrhau bod y plentyn yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol ar y cyd â phlant nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.

2

Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) ond yn gymwys i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol a’i bod yn gydnaws—

a

â’r plentyn yn cael y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei anghenion dysgu ychwanegol yn galw amdani,

b

â darparu addysg effeithlon ar gyfer y plant y caiff ei addysgu gyda hwy, ac

c

â’r defnydd effeithlon o adnoddau.