RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall

I5I8I2I1I3I9I6I12I4I10I11I14I7I1353Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mannau ac eithrio mewn ysgolion

1

Caiff awdurdod lleol drefnu i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal ar gyfer plentyn, neu i unrhyw ran o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, gael ei gwneud mewn man ac eithrio mewn ysgol.

2

Ond ni chaiff awdurdod lleol wneud hynny ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei gwneud mewn ysgol.