Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

56Rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr (“y rhestr”) at ddiben is-adran (3).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r rhestr, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(3)Dim ond os yw sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr wedi ei gynnwys yn y rhestr y caiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau addysg neu hyfforddiant ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn y sefydliad hwnnw, yn ddarostyngedig i unrhyw esemptiadau rhagnodedig.

(4)Dim ond ar gais perchennog sefydliad y caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y sefydliad hwnnw yn y rhestr.

(5)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)cynnwys y rhestr;

(b)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy fel amod o gynnwys y sefydliad yn y rhestr;

(c)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy tra bo’r sefydliad wedi ei restru (gan gynnwys gofynion o ran cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i drefniadau yn y sefydliad ac i newid trefniadau o’r fath);

(d)dileu’r sefydliad o’r rhestr;

(e)yr hawl i berchenogion sefydliadau apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau—

(i)i wrthod rhestru sefydliad;

(ii)i ddileu sefydliad o’r rhestr;

(iii)i beidio â chymeradwyo trefniadau yn y sefydliad neu i beidio â chymeradwyo newid iddynt.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” yw sefydliad sy’n darparu addysg neu hyfforddiant ar gyfer personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sydd wedi ei drefnu’n arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant o’r fath ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol, ac nad yw’n—

(a)sefydliad yn y sector addysg bellach,

(b)ysgol annibynnol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)),

(c)sefydliad addysgol annibynnol (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)), sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o’r Ddeddf honno), neu

(d)Academi 16 i 19.