RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall

I1I5I256Rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol

I41

Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr (“y rhestr”) at ddiben is-adran (3).

2

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r rhestr, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

3

Dim ond os yw sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr wedi ei gynnwys yn y rhestr y caiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau addysg neu hyfforddiant ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn y sefydliad hwnnw, yn ddarostyngedig i unrhyw esemptiadau rhagnodedig.

I34

Dim ond ar gais perchennog sefydliad y caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y sefydliad hwnnw yn y rhestr.

I35

Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer—

a

cynnwys y rhestr;

b

gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy fel amod o gynnwys y sefydliad yn y rhestr;

c

gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy tra bo’r sefydliad wedi ei restru (gan gynnwys gofynion o ran cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i drefniadau yn y sefydliad ac i newid trefniadau o’r fath);

d

dileu’r sefydliad o’r rhestr;

e

yr hawl i berchenogion sefydliadau apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau—

i

i wrthod rhestru sefydliad;

ii

i ddileu sefydliad o’r rhestr;

iii

i beidio â chymeradwyo trefniadau yn y sefydliad neu i beidio â chymeradwyo newid iddynt.

I36

Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” yw sefydliad sy’n darparu addysg neu hyfforddiant ar gyfer personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sydd wedi ei drefnu’n arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant o’r fath ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol, ac nad yw’n—

a

sefydliad yn y sector addysg bellach,

b

ysgol annibynnol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)),

c

sefydliad addysgol annibynnol (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)), sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o’r Ddeddf honno), neu

d

Academi 16 i 19.