Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

6Dyletswydd i gynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifancLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw—

(a)i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn a’i riant neu’r person ifanc,

(b)i bwysigrwydd bod y plentyn a’i riant neu’r person ifanc yn cymryd rhan mor llawn â phosibl mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth o dan sylw, ac

(c)i bwysigrwydd bod yr wybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol yn cael eu darparu i’r plentyn ac i riant y plentyn neu i’r person ifanc er mwyn eu galluogi neu ei alluogi i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 6 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I3A. 6 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))