RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau amrywiol

63Dyletswydd i gadw darpariaeth ddysgu ychwanegol o dan adolygiad

1

Rhaid i awdurdod lleol gadw o dan adolygiad y trefniadau a wneir gan yr awdurdod a chan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

2

Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y graddau y mae’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn ddigonol i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt, gan roi sylw i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a all gael ei threfnu’n rhesymol gan eraill.

3

Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn cynnwys dyletswydd i ystyried—

a

digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;

b

maint a gallu’r gweithlu sydd ar gael.

4

Os bydd awdurdod lleol yn ystyried nad yw’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) (gan gynnwys y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ar gael yn Gymraeg) yn ddigonol, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni’r mater.

5

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau, ac ar unrhyw adegau, y mae’n ystyried eu bod yn briodol.