RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3LL+CSWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau amrywiolLL+C

64Dyletswydd cyrff iechyd i hysbysu rhieni etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff iechyd a grybwyllir yn is-adran (2), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol ac y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdano, yn ffurfio barn bod gan y plentyn, neu ei bod yn debygol bod gan y plentyn, anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Y cyrff iechyd yw—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)ymddiriedolaeth GIG;

[F1(c)bwrdd gofal integredig;]

(d)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(e)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(3)Rhaid i’r corff iechyd roi gwybod i riant y plentyn am ei farn ac am ei ddyletswydd yn is-adran (4).

(4)Ar ôl rhoi cyfle i’r rhiant i drafod barn y corff iechyd â swyddog o’r corff, rhaid i’r corff iechyd ddwyn y farn i sylw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu, os yw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal, i sylw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, os yw’r corff iechyd wedi ei fodloni y byddai gwneud hynny er lles pennaf y plentyn.

(5)Os yw’r corff iechyd o’r farn bod sefydliad gwirfoddol penodol yn debygol o allu rhoi cyngor neu gymorth arall i’r rhiant mewn cysylltiad ag unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a all fod gan y plentyn, rhaid iddo roi gwybod i’r rhiant yn unol â hynny.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 64 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I3A. 64 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I5A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I6A. 64 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I7A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I8A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I9A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I10A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I11A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I12A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I13A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I14A. 64 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))