Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

RHAN 2LL+CANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3LL+CSWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau amrywiolLL+C

65Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arallLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.

(4)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol arall;

(b)awdurdod lleol yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)perchennog Academi;

(f)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(h)Bwrdd Iechyd Lleol;

(i)ymddiriedolaeth GIG;

[F1(j)GIG Lloegr;]

[F2(k)bwrdd gofal integredig;]

(l)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(m)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(5)Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 65 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(h)

I3A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I4A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I5A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I6A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I7A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I8A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I9A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I10A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I11A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I12A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I13A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I14A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I15A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)