RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau amrywiol

65Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall

1

Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

2

Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

a

yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

b

fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.

3

Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.

4

Y personau yw—

a

awdurdod lleol arall;

b

awdurdod lleol yn Lloegr;

c

corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

d

corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

e

perchennog Academi;

f

tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

g

person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

h

Bwrdd Iechyd Lleol;

i

ymddiriedolaeth GIG;

j

Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

k

grŵp comisiynu clinigol;

l

ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

m

Awdurdod Iechyd Arbennig.

5

Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.