xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau amrywiol

65Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.

(4)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol arall;

(b)awdurdod lleol yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)perchennog Academi;

(f)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(h)Bwrdd Iechyd Lleol;

(i)ymddiriedolaeth GIG;

(j)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

(k)grŵp comisiynu clinigol;

(l)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(m)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(5)Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.