RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau amrywiol

I14I2I1I11I7I9I6I8I12I10I4I13I3I566Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraill

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan y Rhan hon ar gyfer plentyn neu berson ifanc.

2

Mae hawl gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i gael mynediad ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fan lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ym mangre sefydliad a restrir yn is-adran (3) os yw mynediad i’r man hwnnw’n angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon.

3

Y sefydliadau yw—

a

ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;

b

ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr;

c

sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

d

Academi;

e

ysgol arbennig nas cynhelir;

f

sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o dan adran 56.