Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

76Cyrff GIG: tystiolaeth ac argymhellion y TribiwnlysLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru, mewn perthynas ag apêl o dan y Rhan hon,—

(a)arfer ei swyddogaethau i’w gwneud yn ofynnol i gorff GIG roi tystiolaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r corff;

(b)gwneud argymhellion i gorff GIG ynghylch arfer swyddogaethau’r corff.

(2)Nid oes dim yn is-adran (1) sy’n effeithio ar gyffredinolrwydd y pwerau i wneud rheoliadau yn adrannau 74 a 75.

(3)Rhaid i gorff GIG y gwnaed argymhelliad iddo gan y Tribiwnlys lunio adroddiad i’r Tribiwnlys cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir yr argymhelliad.

(4)Rhaid i’r adroddiad o dan is-adran (3) nodi—

(a)y camau y mae’r corff GIG wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhelliad, neu

(b)pam nad yw’r corff GIG wedi cymryd unrhyw gamau a pham nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i’r argymhelliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 76 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(i)

I3A. 76 mewn grym ar 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)