Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

78Pŵer i rannu dogfennau a gwybodaeth arall â Gweinidogion CymruLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru rannu â Gweinidogion Cymru unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd yn ei feddiant sy’n ymwneud â pha un a fu neu a fydd cydymffurfedd â gorchymyn neu argymhelliad a wnaed gan y Tribiwnlys o dan y Rhan hon ai peidio neu sy’n ymwneud â pha un a gafodd neu a gaiff gorchymyn neu argymhelliad o’r fath ei ddilyn ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 78 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 78 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(g)