RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 5CYFFREDINOL

Galluedd

I1I284Galluedd plant

1

Mae is-adrannau (2) i (7) yn gymwys—

a

i’r ddyletswydd i hysbysu plentyn neu i roi gwybod i blentyn o dan adran 11(4), 13(3), 18(3), 22(2), 23(10), 24(9), 27(4), 28(4), 28(7), 31(7), 31(8), 31(9), 32(3), 40(4) neu 42(6);

b

i’r ddyletswydd i roi copi o gynllun neu gynllun diwygiedig i blentyn o dan adran 22(1), 23(11), 24(10) neu 40(5);

c

i’r amodau ym mharagraffau (a) a (b) o adran 20(3) fel y bônt yn gymwys i blentyn;

d

i’r ddyletswydd i adolygu cynllun yn dilyn cais gan blentyn o dan adran 23(8) neu 24(7);

e

i’r ddyletswydd i ailystyried yn dilyn cais gan blentyn o dan adran 26(1), 27(1) neu 32(1)(b);

f

i’r ddyletswydd i benderfynu yn dilyn cais gan blentyn o dan adran 28(1).

2

Nid yw’r amod neu’r ddyletswydd yn gymwys os yw’r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol neu’r corff GIG (yn ôl y digwydd) yn ystyried nad oes gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw, oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

3

Mae’r is-adran hon yn gymwys os—

a

yn achos penderfyniad gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn yn rhoi gwybod i’r corff llywodraethu ei fod yn ystyried bod gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw,

b

oes cyfaill achos wedi ei benodi ar gyfer y plentyn o dan adran 85 drwy orchymyn gan Dribiwnlys Addysg Cymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth yn neu o dan yr adran honno, neu

c

oes datganiad wedi ei wneud gan Dribiwnlys Addysg Cymru o dan adran 71(2) fod gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw.

4

Nid yw’r amod neu’r ddyletswydd yn gymwys i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn yn rhoi gwybod i’r corff llywodraethu fod yr awdurdod yn ystyried nad oes gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw.

5

Mae is-adran (6) yn gymwys pan—

a

bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ystyried bod naill ai gan blentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall mater sy’n ymwneud ag arfer swyddogaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, a

b

bo’r plentyn neu riant y plentyn yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn ailystyried hynny.

6

Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw.

7

Nid yw’r amod neu’r ddyletswydd yn gymwys os yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn datgan o dan adran 71(2) nad oes gan y plentyn y galluedd i ddeall.

8

Yn yr adran hon ystyr “y galluedd i ddeall y mater” yw’r galluedd i ddeall—

a

gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

b

yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.