RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 5CYFFREDINOL

Galluedd

I1I2I385Cyfeillion achos ar gyfer plant nad oes ganddynt alluedd

1

Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—

a

gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

b

yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.

2

Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru drwy orchymyn—

a

penodi person i fod yn gyfaill achos ar gyfer plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo, neu

b

diswyddo’r person rhag bod yn gyfaill achos ar gyfer y plentyn,

ar gais unrhyw berson neu ar ei ysgogiad ei hun, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan is-adran (8).

3

Caiff cyfaill achos a benodir ar gyfer plentyn o dan yr adran hon—

a

cynrychioli a chefnogi’r plentyn, a

b

gwneud penderfyniadau a gweithredu ar ran y plentyn,

mewn cysylltiad â materion sy’n codi o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan is-adran (8).

4

Pan fo person wedi ei benodi i fod yn gyfaill achos drwy orchymyn gan y Tribiwnlys o dan yr adran hon, mae hawliau plentyn o dan y darpariaethau yn is-adran (5) i gael eu harfer gan y cyfaill achos ar ran y plentyn ac mae’r darpariaethau i gael eu dehongli yn unol â hynny.

5

Y darpariaethau yw—

a

adrannau 11(4), 13(3), 18(3), 22(2), 23(10), 24(9), 27(4), 28(4), 28(7), 31(7), 31(8), 31(9), 32(3), 40(4) a 42(6) (dyletswyddau i hysbysu neu i roi gwybod);

b

adrannau 22(1), 23(11), 24(10) a 40(5) (dyletswyddau i roi copi o gynllun neu gynllun diwygiedig);

c

adran 20(3) (dyletswydd i roi gwybod a rhoi cyfle i drafod);

d

adrannau 23(8) a 24(7) (dyletswydd i adolygu cynllun yn dilyn cais);

e

adran 26(1), 27(1) a 32(1)(b) (dyletswyddau i ailystyried yn dilyn cais);

f

adran 28(1) (dyletswydd i benderfynu yn dilyn cais);

g

adran 70(2) (yr hawl i apelio);

h

adran 72 (yr hawl i apelio: personau sy’n cael eu cadw’n gaeth).

6

O ran cyfaill achos sydd wedi ei benodi o dan yr adran hon—

a

rhaid iddo weithredu’n deg ac yn gymwys,

b

ni chaiff fod ag unrhyw fuddiant sy’n groes i fuddiant y plentyn,

c

rhaid iddo sicrhau bod yr holl gamau a gymerir a’r holl benderfyniadau a wneir gan y cyfaill achos er budd y plentyn, a

d

rhaid iddo ystyried safbwyntiau’r plentyn, i’r graddau y bo’n bosibl.

7

Wrth benderfynu pa un ai i benodi person i fod yn gyfaill achos ai peidio neu benderfynu pa un ai i ddiswyddo cyfaill achos ai peidio, rhaid i’r Tribiwnlys roi sylw, yn benodol, i a yw’r person yn debygol o gydymffurfio (yn achos penodi) neu a yw wedi cydymffurfio (yn achos diswyddo) â’r ddyletswydd yn is-adran (6).

8

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cyfeillion achos, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth—

a

sy’n rhoi swyddogaethau i Dribiwnlys Addysg Cymru;

b

sy’n rhoi swyddogaethau i gyfeillion achos;

c

ynghylch gweithdrefnau mewn perthynas â chyfeillion achos;

d

sy’n pennu’r amgylchiadau pan gaiff person neu pan na chaiff person weithredu fel cyfaill achos;

e

sy’n pennu’r amgylchiadau pan fydd rhaid i blentyn gael cyfaill achos;

f

sy’n pennu gofynion mewn cysylltiad ag ymddygiad cyfeillion achos;

g

sy’n cymhwyso unrhyw ddeddfiad gydag addasiadau neu hebddynt at ddiben galluogi cyfaill achos i wneud penderfyniadau neu i weithredu ar ran plentyn mewn cysylltiad â materion sy’n codi o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon.