Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

90Pŵer i ddiwygio dyletswyddau i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn GymraegLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r darpariaethau a ganlyn—

  • adran 12(7)(b);

  • adran 14(10)(c);

  • adran 19(7)(c);

  • adran 20(5)(c);

  • adran 21(5);

  • adran 42(8)(b).

(2)Caiff rheoliadau hepgor y geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” o ddarpariaeth.

(3)Caiff rheoliadau ddarparu bod darpariaeth yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” wedi eu hepgor—

(a)at ddiben rhagnodedig,

(b)mewn perthynas â chorff rhagnodedig, neu

(c)at ddiben rhagnodedig mewn perthynas â chorff rhagnodedig.

(4)Os yw’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” wedi eu hepgor gan reoliadau o dan is-adran (2) o bob darpariaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, caiff rheoliadau hepgor adran 89.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 90 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(h)