Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

97Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu i roi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, a

(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad neu ddogfen statudol.

(3)Rhaid i ddogfen statudol a ddiwygir drwy reoliadau o dan yr adran hon gael ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiwygiedig gan y person a chanddo’r swyddogaeth o wneud neu ddyroddi’r ddogfen.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “dogfen statudol” yw offeryn (ac eithrio offeryn statudol)—

(a)a wneir neu a ddyroddir o dan ddeddfiad, a

(b)sy’n ddarostyngedig i weithdrefn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n ofynnol gan ddeddfiad cyn y caniateir iddo gael ei wneud neu ei ddyroddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 97 mewn grym ar 25.1.2018, gweler a. 100(1)