RHAN 4AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

98Rheoliadau

1

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i gael ei arfer drwy offeryn statudol.

2

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

a

darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;

b

darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

3

Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

a

rheoliadau o dan adran 3(4), 39(2), 45, 46, 60(4), 74(1), 75, 82, 83, 85, 90 neu 99(8);

b

y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 15(2);

c

rheoliadau a wneir o dan adran 97 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.