Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018

CyffredinolLL+C

17Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19(2)

I2A. 17 mewn grym ar 15.8.2018 gan O.S. 2018/777, ergl. 3(g)

18Pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol pellach etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud y cyfryw ddarpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad y maent yn ystyried ei bod yn briodol o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon, neu oddi tani, neu at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon, neu oddi tani.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “deddfiad” yw darpariaeth a gynhwysir yn unrhyw un o’r canlynol, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)unrhyw offeryn a wneir o dan Ddeddf o fewn paragraff (a), neu Ddeddf neu Fesur o fewn paragraff (b).

(3)Mewn perthynas â rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)maent i’w gwneud drwy offeryn statudol;

(b)cânt gynnwys darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol, neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(5)Mae unrhyw offeryn arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19(2)

I4A. 18 mewn grym ar 15.6.2018 gan O.S. 2018/777, ergl. 2(c)

19Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon ac adran 20 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 19 mewn grym ar 14.6.2018, gweler a. 19(1)

20Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 20 mewn grym ar 14.6.2018, gweler a. 19(1)