Adroddiad a darpariaeth fachludLL+C

21Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf honLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod 5 mlynedd, osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod hwnnw.

(2)Wrth lunio’r adroddiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad.

(4)Yn is-adran (1), mae i “y cyfnod 5 mlynedd” yr ystyr a roddir yn adran 22(4).

22Cyfnod para darpariaethau’r isafbrisLL+C

(1)Mae darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu gydag effaith ar ôl i’r cyfnod 6 mlynedd ddod i ben, oni bai y gwneir rheoliadau o dan is-adran (2) sy’n darparu fel arall.

(2)Caiff rheoliadau, ar ôl diwedd y cyfnod 5 mlynedd ond cyn diwedd y cyfnod 6 mlynedd, ddarparu nad yw darpariaethau’r isafbris wedi eu diddymu, er gwaethaf is-adran (1).

(3)Caiff rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth (gan gynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad) sy’n angenrheidiol neu’n hwylus o ganlyniad i ddiddymu, yn rhinwedd is-adran (1), ddarpariaethau’r isafbris.

(4)Yn yr adran hon—

  • mae “addasu” (“modifying”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio, diddymu a dirymu;

  • ystyr “y cyfnod 5 mlynedd” (“the 5 year period”) yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2 i rym;

  • ystyr “y cyfnod 6 mlynedd” (“the 6 year period”) yw’r cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 2 i rym;

  • ystyr “darpariaethau’r isafbris” (“minimum pricing provisions”) yw—

    (a)

    y Ddeddf hon (ac eithrio is-adran (3) a’r is-adran hon, ac at ddibenion gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), adrannau 26(1), (2) a 27), a

    (b)

    paragraff 2A o Atodlen 4 i Ddeddf 2003.