xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

CosbauLL+C

8CosbauLL+C

Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 2 yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 8 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

9Cosbau penodedigLL+C

(1)Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 yn ardal yr awdurdod lleol, caiff y swyddog roi i’r person hwnnw hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno.

(2)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson i gael ei ryddhau o fod yn agored i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

(3)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael ei drin fel cyfeiriad at y bartneriaeth.

(4)Yn achos trosedd y mae gan swyddog awdurdodedig reswm dros gredu ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y person y caniateir rhoi hysbysiad cosb benodedig iddo i gael ei drin fel cyfeiriad at y gymdeithas.

(5)Am ddarpariaeth bellach ynghylch cosbau penodedig, gweler Atodlen 1.

(6)Am ystyr “swyddog awdurdodedig”, gweler adran 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I4A. 9 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)