Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

Cynigion arbennigLL+C

5Cynigion arbennig: prynu sawl eitem o alcoholLL+C

(1)Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi mewn trafodiad alcohol amleitem, mae’r isafbris cymwys i gael ei gyfrifo drwy gyfeirio at yr holl alcohol sydd wedi ei gynnwys yn y trafodiad.

(2)Cyflenwir alcohol mewn trafodiad alcohol amleitem—

(a)os y’i cyflenwir yn rhad ac am ddim drwy gyfeirio at gyflenwi alcohol arall, neu

(b)os cyflenwir alcohol arall yn rhad ac am ddim drwy gyfeirio ato,

ac, yn y naill achos neu’r llall, mae’r alcohol am ddim a’r alcohol y cyflenwir yr alcohol am ddim drwy gyfeirio ato i gael eu trin fel pe baent wedi eu cynnwys yn yr un trafodiad.

(3)Cyflenwir alcohol mewn trafodiad alcohol amleitem hefyd—

(a)os y’i cyflenwir am bris penodol a bennir drwy gyfeirio at gyflenwi alcohol arall, neu

(b)os cyflenwir alcohol arall am bris penodol a bennir drwy gyfeirio ato,

ac, yn y naill achos neu’r llall, mae’r alcohol pris penodol a’r alcohol y cyflenwir yr alcohol pris penodol drwy gyfeirio ato i gael eu trin fel pe baent wedi eu cynnwys yn yr un trafodiad.

(4)Cyflenwir alcohol mewn trafodiad alcohol amleitem hefyd os y’i cyflenwir, ynghyd ag alcohol arall, am bris penodol, ac, yn yr achos hwnnw, mae’r holl alcohol a gyflenwir am y pris hwnnw i gael ei drin fel pe bai wedi ei gynnwys yn yr un trafodiad.

(5)Ond nid yw alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi mewn trafodiad alcohol amleitem os cyflenwir unrhyw beth ac eithrio alcohol yn y trafodiad.

(6)Er enghraifft—

(a)mewn cynnig arbennig, cyflenwir 4 can o lager a 4 can o seidr gyda’i gilydd am bris penodol: Cr (cryfder canrannol) yw 4% mewn perthynas â’r lager, a 6% mewn perthynas â’r seidr, tra bo Cy (cyfaint) yn 440 ml ym mhob achos;

(b)gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, yr isafbris cymwys am y trafodiad yw £8.80; a’r swm hwnnw yw cyfanswm y cyfrifiadau a ganlyn—

  • £0.50 × 4 × 1.76 = £3.52 (isafbris y lager), a

  • £0.50 × 6 × 1.76 = £5.28 (isafbris y seidr).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 5 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

6Cynigion arbennig: cyflenwi alcohol gyda nwyddau a gwasanaethauLL+C

(1)Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau ac eithrio alcohol, neu gyda gwasanaethau, am un pris, mae is-adran (2) yn gymwys.

(2)Mae’r alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi am yr un pris hwnnw at ddiben penderfynu a yw pris gwerthu’r alcohol yn is na’r isafbris cymwys.

(3)Er enghraifft—

(a)mewn cynnig arbennig, cyflenwir y caniau o lager a seidr a grybwyllir yn yr enghraifft a roddir yn adran 5(6) gyda pitsa am un pris;

(b)gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, mae pris gwerthu’r alcohol i gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel cyfanswm pris y caniau a’r pitsa, ac ni chaniateir i’r pris hwnnw fod yn is nag £8.80, sef yr isafbris cymwys am y lager a’r seidr.

(4)Pan fo alcohol yn cael ei gyflenwi am bris a bennir drwy gyfeirio at gyflenwi nwyddau ac eithrio alcohol, neu wasanaethau (“pris arbennig”), mae is-adran (5) yn gymwys at ddiben penderfynu a yw pris gwerthu’r alcohol yn is na’r isafbris cymwys.

(5)Mae’r alcohol i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gyflenwi am bris sy’n hafal i gyfanswm y pris arbennig a’r pris (os oes un) y cyflenwir y nwyddau eraill a’r gwasanaethau amdano.

(6)Er enghraifft—

(a)mewn cynnig arbennig, cyflenwir y caniau o lager a seidr a grybwyllir yn yr enghraifft a roddir yn adran 5(6) am bris arbennig os yw pitsa yn cael ei brynu am £5.00;

(b)gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, mae pris gwerthu’r alcohol i gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel cyfanswm pris y pitsa a’r pris arbennig, ac ni chaniateir i’r pris arbennig hwnnw fod yn is na £3.80, sef yr isafbris cymwys am y caniau o lager a seidr (sy’n £8.80) llai pris y pitsa (sy’n £5.00).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I4A. 6 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)

7Cynigion arbennig: atodolLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo rhan o’r alcohol a gyflenwir mewn trafodiad alcohol amleitem, neu am un pris neu am bris arbennig, o gryfder gwahanol i’r alcohol arall a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris hwnnw.

(2)Mae’r isafbris cymwys am yr alcohol a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris hwnnw i gael ei gyfrifo drwy ychwanegu’r isafbris cymwys am bob cryfder o alcohol a gyflenwir yn y trafodiad neu am y pris.

(3)Mae cyfeiriadau yn adran 6 at alcohol yn cael ei gyflenwi ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau yn cynnwys cyfeiriadau at drafodiadau pan fo alcohol yn cael ei ddarparu ynghyd â nwyddau eraill a gwasanaethau, ac—

(a)y cyflenwir y nwyddau eraill neu’r gwasanaethau am bris, ond

(b)y disgrifir yr alcohol fel pe bai’n cael ei gyflenwi yn rhad ac am ddim.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I6A. 7 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)