GorfodiLL+C
10Camau gorfodi gan awdurdodau lleolLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol—
(a)dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau yn ei ardal o dan y Ddeddf hon;
(b)ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau honedig yn ei ardal o dan y Ddeddf hon;
(c)cymryd unrhyw gamau eraill gyda golwg ar leihau nifer y troseddau sy’n digwydd yn ei ardal o dan y Ddeddf hon.
(2)Rhaid i awdurdod lleol—
(a)ystyried, o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o ddeuddeng mis, y graddau y mae’n briodol i’r awdurdod gynnal yn ei ardal raglen o gamau gorfodi mewn perthynas â’r Ddeddf hon, a
(b)i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gynnal rhaglen o’r fath.
(3)Wrth gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i awdurdod yn benodol roi sylw i’r amcanion a ganlyn—
(a)gwella iechyd y cyhoedd;
(b)amddiffyn plant rhag niwed.
(4)At ddibenion is-adran (2), mae rhaglen o gamau gweithredu mewn perthynas â’r Ddeddf hon yn rhaglen sy’n ymwneud â chymryd pob un neu unrhyw un neu ragor o’r camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I2A. 10 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
11Swyddogion awdurdodedigLL+C
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol yn gyfeiriadau at unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod at ddibenion y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I4A. 11 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
12Pŵer i wneud pryniannau prawfLL+C
Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wneud unrhyw bryniannau a threfniadau, a sicrhau’r ddarpariaeth o unrhyw wasanaethau, y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I6A. 12 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
13Pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol fynd i fangre yng Nghymru ar unrhyw adeg resymol—
(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a
(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.
(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i fangre drwy rym o dan yr adran hon.
(4)Rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 11 cyn mynd i fangre o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I8A. 13 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
14Gwarant i fynd i anneddLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal awdurdod lleol, a
(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.
(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol i fynd i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(3)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I10A. 14 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
15Gwarant i fynd i fangreoedd eraillLL+C
(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal awdurdod lleol,
(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni, ac
(c)bod gofyniad a nodir yn is-adran (3) neu (4) wedi ei fodloni.
(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i’r fangre, drwy rym oes oes angen.
(3)Y gofyniad yw—
(a)bod gofyn am fynd i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a
(b)bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu i berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod lleol ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.
(4)Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.
(5)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I12A. 15 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
16Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediadLL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 13, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddir o dan adran 14 neu 15, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.
(2)Os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd iddi drwy warant o dan adran 14 neu 15 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant, rhaid i’r swyddog—
(a)rhoi enw’r swyddog i’r meddiannydd;
(b)cyflwyno i’r meddiannydd dystiolaeth ddogfennol o awdurdodiad y swyddog;
(c)cyflenwi copi o’r warant i’r meddiannydd.
(3)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd iddi drwy warant o dan adran 14 neu 15 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I14A. 16 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
17Pwerau arolygu, etc.LL+C
(1)Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 13, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddir o dan adran 14 neu 15, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni—
(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;
(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau neu echdynion ohono;
(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;
(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person.
(2)Os yw’r swyddog awdurdodedig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b), neu unrhyw beth y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c), gael ei ddadansoddi.
(3)Os yw swyddog awdurdodedig, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd meddiant o unrhyw beth, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre y cafodd ei gymryd ohoni ddatganiad—
(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a
(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.
(4)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—
(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;
(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).
(5)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a
(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.
(6)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I16A. 17 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
18Rhwystro etc. swyddogionLL+C
(1)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 13 i 17 yn cyflawni trosedd.
(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—
(a)â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 17(1), neu
(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 17(1)(b) neu (d),
yn cyflawni trosedd.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 17(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I18A. 18 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
19Eiddo a gedwir: apelauLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 17(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau, naill ai i P neu i berson arall.
(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.
(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apel (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (Magistrates’ Courts Act 1980 (c. 43))) gael ei gwneud a dyfarnu arni.
(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad a’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
(5)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (Police (Property) Act 1897 (c.30)) (pŵer i wneud gorchymyn mewn cysylltiad ag eiddo sydd ym meddiant yr heddlu).
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I20A. 19 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)
20Eiddo a gyfeddir: digolleduLL+C
(1)Caiff person (“P”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 17(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.
(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—
(a)bod P wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni, a
(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg P.
(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu P.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I22A. 20 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)