Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

Effaith hysbysiad a thaluLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

14Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif sy’n dogfennu taliad o gosb neu swm gostyngol yn dystiolaeth o’r ffeithiau y mae’n eu datgan—

(a)os yw’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan y person sy’n gyfrifol am faterion ariannol yr awdurdod lleol yr oedd y swyddog awdurdodedig a roddodd hysbysiad cosb yn gweithredu ar ei ran, neu ei bod wedi ei llofnodi ar ran y person hwnnw, a

(b)os yw’n datgan bod taliad o’r gosb benodedig neu’r swm gostyngol yn unol â’r hysbysiad wedi ei gael, neu nad oedd wedi ei gael, erbyn dyddiad a bennir yn y dystysgrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(c)