xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

GorfodiLL+C

14Gwarant i fynd i anneddLL+C

(1)Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) mewn perthynas â mangre yng Nghymru a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 2 wedi ei chyflawni yn ardal awdurdod lleol, a

(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol i fynd i’r fangre, drwy rym os oes angen.

(3)Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 14 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)