Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

18Rhwystro etc. swyddogionLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae person sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 13 i 17 yn cyflawni trosedd.

(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu—

(a)â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu at ddiben gofyniad o dan adran 17(1), neu

(b)â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 17(1)(b) neu (d),

yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 17(6).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 18 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)