Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018

24Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraillLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol.

(4)Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (Criminal Justice Act 1925 (c. 86)) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (Magistrates’ Courts Act 1980 (c. 43)) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(5)Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o asedau’r bartneriaeth.

(6)Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o gronfeydd y gymdeithas.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 24 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)