3Ystyr “cyflenwi alcohol” a “mangre gymhwysol”LL+C
(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr cyflenwi alcohol yw—
(a)gwerthu drwy fanwerthu alcohol i berson yng Nghymru, neu
(b)cyflenwi alcohol gan neu ar ran clwb i aelod o’r clwb, a’r aelod hwnnw yng Nghymru, neu i berson yng Nghymru ar orchymyn aelod o’r clwb,
ac mae ymadroddion cysylltiedig i gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2)Mae mangre yn fangre gymhwysol at ddibenion y Ddeddf hon—
(a)os yw trwydded mangre a roddir o dan Ran 3 o Ddeddf 2003 yn awdurdodi defnyddio’r fangre i gyflenwi alcohol,
(b)os yw tystysgrif mangre clwb a roddir o dan Ran 4 o Ddeddf 2003 yn ardystio y caniateir i’r fangre gael ei defnyddio i gyflenwi alcohol, neu
(c)os yw cyflenwi alcohol yn y fangre neu o’r fangre yn weithgaredd dros dro a ganiateir at ddibenion Rhan 5 o Ddeddf 2003.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)
I2A. 3 mewn grym ar 2.3.2020 gan O.S. 2020/175, rhl. 2(b)