xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CGWAHARDD TALIADAU PENODOL ETC.

2Gwaharddiadau sy’n gymwys i landlordiaidLL+C

(1)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

(2)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r landlord, neu gydag unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn darparu i wasanaethau gael eu darparu gan berson y mae’r contract meddiannaeth safonol yn rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd, neu y byddai’n rhoi’r hawl iddo feddiannu annedd (pa un a yw’r contract am wasanaethau hefyd yn darparu i unrhyw berson arall ddarparu gwasanaethau ai peidio).

(4)Mae’n drosedd i landlord ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r landlord, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am roi neu am adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2A. 2 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

3Gwaharddiadau sy’n gymwys i asiantiaid gosod eiddoLL+C

(1)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r taliad gael ei wneud.

(2)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol i berson ymrwymo i gontract am wasanaethau gyda’r asiant gosod eiddo, neu gydag unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol ymrwymo i’r contract am wasanaethau.

(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r contract am wasanaethau o dan sylw yn gontract rhwng landlord ac asiant gosod eiddo yn unig, mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant i ymgymryd ag ef ar ran y landlord.

(4)Mae’n drosedd i asiant gosod eiddo ei gwneud yn ofynnol bod benthyciad yn cael ei roi i’r asiant gosod eiddo, neu i unrhyw berson arall—

(a)yn gydnabyddiaeth am drefnu i roi neu adnewyddu contract meddiannaeth safonol, neu am drefnu i barhau â chontract o’r fath, neu

(b)yn unol â theler mewn contract meddiannaeth safonol sy’n honni ei bod yn ofynnol i’r benthyciad gael ei roi.

(5)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Caiff y llys sy’n euogfarnu person (“y troseddwr”) o drosedd o dan is-adran (1) orchymyn i’r troseddwr dalu swm y taliad o dan sylw neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad i’r person a’i talodd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I4A. 3 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

4Taliadau gwaharddedig a thaliadau a ganiateirLL+C

(1)Mae unrhyw daliad o arian yn daliad gwaharddedig oni bai—

(a)ei fod yn daladwy gan landlord i asiant gosod eiddo mewn cysylltiad â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo y mae’r asiant yn ymgymryd ag ef ar ran y landlord, neu

(b)ei fod yn daliad a ganiateir yn rhinwedd Atodlen 1.

(2)Mae’r Atodlen honno yn gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)rhent;

(b)blaendaliadau sicrwydd;

(c)blaendaliadau cadw;

(d)diffygdaliadau;

(e)taliadau mewn cysylltiad â’r dreth gyngor;

(f)taliadau mewn cysylltiad â chyfleustodau;

(g)taliadau mewn cysylltiad â thrwydded deledu;

(h)taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfathrebu.

[F1(i)taliadau gwasanaeth;]

[F2(j)taliadau mewn cysylltiad â chopïau pellach o ddatganiad ysgrifenedig]

Diwygiadau Testunol

F1A. 4(2)(i) wedi ei fewnosod (gydag effaith yn unol ag s.15(4) o'r Ddeddf diwygio) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 15(2), 19(1) (ynghyd ag a. 15(5)-(7))

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I6A. 4 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

5Telerau contract nad ydynt yn rhwymoLL+C

(1)Nid yw teler mewn contract meddiannaeth safonol yn rhwymo deiliad contract i’r graddau y byddai (oni bai am yr adran hon) yn ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud, neu i ymrwymo i gontract am wasanaethau, neu i fenthyciad gael ei wneud, fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3.

(2)Ond mae’r contract yn parhau, i’r graddau y bo hynny’n ymarferol, i gael effaith ym mhob cyswllt arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I8A. 5 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

6Cymhwyso adrannau 2 i 5 i ofynion a chontractau sydd eisoes yn bodoliLL+C

Nid yw adrannau 2 i 5 yn gymwys mewn cysylltiad ag—

(a)gofyniad a osodir cyn i’r Rhan hon ddod i rym;

F3(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I10A. 6 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

7Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o “taliad a ganiateir”LL+C

(1)Caiff rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon at ddibenion ychwanegu, addasu neu ddileu cyfeiriad yn Atodlen 1 at gategori o daliad.

(2)Ond nid yw’r pŵer yn is-adran (1) yn estyn i ddileu talu rhent o’r categorïau o daliad sy’n daliadau a ganiateir o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I12A. 7 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

8Ystyr “asiant gosod eiddo”, “gwaith gosod” a “gwaith rheoli eiddo”LL+C

At ddibenion y Rhan hon a Rhannau 3 i 5—

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I14A. 8 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)