xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGORFODAETH

Pwerau awdurdod gorfodi i wneud gwybodaeth etc. yn ofynnolLL+C

10Pŵer i wneud dogfennau neu wybodaeth yn ofynnolLL+C

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod at ddiben ymchwilio i ba un a gyflawnwyd unrhyw drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ardal yr awdurdod gorfodi.

(2)Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gyflwyno, ar amser, mewn lleoliad, ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw ddogfennau—

(a)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a

(b)sydd yng ngwarchodaeth y person neu o dan reolaeth y person.

(3)Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu, ar ffurf ac mewn modd a bennir yn yr hysbysiad, ac ar amser, mewn lle ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth—

(a)a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)sy’n hysbys i’r person.

(4)Y personau o fewn yr adran hon yw—

(a)person sy’n landlord o dan gontract meddiannaeth safonol neu sydd wedi bod yn landlord o dan gontract o’r fath;

(b)person sy’n ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth safonol, neu sydd wedi bod yn ddeiliad contract o dan gontract o’r fath;

(c)person sy’n asiant gosod eiddo neu sydd wedi bod yn asiant o’r fath.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth ynghylch canlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(6)Caiff person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.

(7)Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu ddarparu unrhyw wybodaeth y byddai gan y person hawl i wrthod ei chyflwyno neu ei darparu, mewn achos yn yr Uchel Lys, ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.

(8)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2A. 10 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

11Trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad o dan adran 10LL+C

(1)Mae’n drosedd i berson fethu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r person ei wneud gan hysbysiad o dan adran 10.

(2)Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mae’n amddiffyniad bod gan y person esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Mae’n drosedd i berson fynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen yr oedd yn ofynnol i’r person ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 10.

(5)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(6)Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly—

(a)mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a

(b)mae’r cyfeiriad yn yr is-adran honno at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r modd o atgynhyrchu’r wybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I4A. 11 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)

12Trosedd o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â hysbysiad o dan adran 10LL+C

(1)Mae’n drosedd i berson y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 10, gan honni cydymffurfio â’r hysbysiad, ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

(a)yn gwybod bod yr wybodaeth a ddarperir yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

(2)Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

(a)yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, a

(b)yn gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddiben darparu gwybodaeth gan honni cydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir i berson arall o dan adran 10.

(3)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw’n anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I6A. 12 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(a)