C1RHAN 4GORFODAETH

Annotations:

Pwerau awdurdod gorfodi i wneud gwybodaeth etc. yn ofynnol

I1I14C110C1Pŵer i wneud dogfennau neu wybodaeth yn ofynnol

1

Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod at ddiben ymchwilio i ba un a gyflawnwyd unrhyw drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ardal yr awdurdod gorfodi.

2

Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gyflwyno, ar amser, mewn lleoliad, ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw ddogfennau—

a

a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o ddogfen a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, a

b

sydd yng ngwarchodaeth y person neu o dan reolaeth y person.

3

Caiff swyddog awdurdodedig roi hysbysiad i berson o fewn is-adran (4) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu, ar ffurf ac mewn modd a bennir yn yr hysbysiad, ac ar amser, mewn lle ac i berson a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth—

a

a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad, neu sydd o fewn categori o wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, a

b

sy’n hysbys i’r person.

4

Y personau o fewn yr adran hon yw—

a

person sy’n landlord o dan gontract meddiannaeth safonol neu sydd wedi bod yn landlord o dan gontract o’r fath;

b

person sy’n ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth safonol, neu sydd wedi bod yn ddeiliad contract o dan gontract o’r fath;

c

person sy’n asiant gosod eiddo neu sydd wedi bod yn asiant o’r fath.

5

Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth ynghylch canlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.

6

Caiff person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.

7

Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu ddarparu unrhyw wybodaeth y byddai gan y person hawl i wrthod ei chyflwyno neu ei darparu, mewn achos yn yr Uchel Lys, ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.

8

Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.

I2I15C111C1Trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad o dan adran 10

1

Mae’n drosedd i berson fethu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol i’r person ei wneud gan hysbysiad o dan adran 10.

2

Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1) mae’n amddiffyniad bod gan y person esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

3

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

4

Mae’n drosedd i berson fynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen yr oedd yn ofynnol i’r person ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 10.

5

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

6

Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy ac mewn perthynas â gwybodaeth a gofnodir felly—

a

mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a

b

mae’r cyfeiriad yn yr is-adran honno at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r modd o atgynhyrchu’r wybodaeth.

I3I16C112C1Trosedd o ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn perthynas â hysbysiad o dan adran 10

1

Mae’n drosedd i berson y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 10, gan honni cydymffurfio â’r hysbysiad, ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

a

yn gwybod bod yr wybodaeth a ddarperir yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

b

yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

2

Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol, os yw’r person—

a

yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, a

b

yn gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddiben darparu gwybodaeth gan honni cydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir i berson arall o dan adran 10.

3

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

4

Yn yr adran hon, ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw’n anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.

Hysbysiadau cosb benodedig

I4I17C113C1Hysbysiadau cosb benodedig

1

Pan fo gan swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi reswm i gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan adran 2 neu 3 yn ardal yr awdurdod, caiff y swyddog roi hysbysiad cosb benodedig i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r drosedd.

2

Hysbysiad cosb benodedig, at ddibenion is-adran (1), yw hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i berson ryddhau unrhyw atebolrwydd i gael euogfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb o £1000.

3

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau roi swm gwahanol yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).

4

Mae hysbysiad cosb benodedig a roddir o dan yr adran hon i’w drin fel pe bai wedi ei roi o dan adran 29 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) at ddibenion is-adrannau (2), (3) a (6) i (8) o’r adran honno (darpariaeth ynghylch sut y rhoddir hysbysiadau cosb benodedig) ac at y diben hwn mae’r cyfeiriad at “yr awdurdod trwyddedu” yn is-adran (8)(a) o’r adran honno i’w drin fel pe bai’n gyfeiriad at yr awdurdod gorfodi o dan sylw.

5

Ni chaniateir i dderbyniadau cosb benodedig a geir gan awdurdod gorfodi yn rhinwedd yr adran hon gael eu defnyddio heblaw at ddiben swyddogaethau’r awdurdod sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau’r Ddeddf hon.

Hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu

I5I18C114C1Dyletswydd awdurdod tai lleol i hysbysu awdurdod trwyddedu am euogfarn

1

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod person wedi ei euogfarnu am drosedd o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd yn ei ardal, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag is-adran (2).

2

Rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad am yr euogfarn i’r awdurdod trwyddedu a ddynodir o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), neu, os oes mwy nag un awdurdod trwyddedu wedi ei ddynodi felly, i bob un o’r awdurdodau hynny.

3

Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol roi hysbysiad am euogfarn i awdurdod trwyddedu os cafodd yr achos a arweiniodd at yr euogfarn ei ddwyn gan yr awdurdod trwyddedu o dan adran 19.

Canllawiau

I6I19C115C1Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod gorfodi roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Ystyr “swyddog awdurdodedig” yn y Rhan hon

I7I20C116C1Ystyr “swyddog awdurdodedig”

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi yn gyfeiriad at berson (pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod ai peidio) sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion y Rhan hon.

Yr awdurdod gorfodi at ddibenion y Rhan hon

I8I21C117C1Awdurdodau gorfodi

1

At ddibenion y Rhan hon, yr awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ardal awdurdod tai lleol yw pob un o’r canlynol—

a

yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal, a

b

yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal.

2

Ond ni chaiff awdurdod trwyddedu sydd, yn rhinwedd is-adran (1)(b), yn awdurdod gorfodi ar gyfer ardal awdurdod tai lleol, arfer unrhyw swyddogaeth awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r ardal honno, na dwyn achos o dan adran 19 mewn perthynas â’r ardal honno, heb gael cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal.

3

Caniateir i gydsyniad o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol neu swyddogaethau penodol.

4

At ddibenion yr adran hon, ystyr “awdurdod trwyddedu” yw person sydd wedi ei ddynodi’n awdurdod trwyddedu o dan adran 3 o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

5

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ardal awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at yr ardal y mae’n awdurdod gorfodi ar ei chyfer, neu’r ardaloedd y mae’n awdurdod gorfodi ar eu cyfer, yn ôl y digwydd.

Rhannu gwybodaeth a’r pŵer i ddwyn achos troseddol

I9I22C118C1Darparu a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau gorfodi

1

Os yw awdurdod gorfodi yn gofyn am wybodaeth gan awdurdod gorfodi arall, rhaid i’r awdurdod arall hwnnw gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy ar wahân i fod o dan y Rhan hon).

2

Yr wybodaeth y gellir gofyn amdani gan awdurdod gorfodi o dan is-adran (1) yw gwybodaeth y mae’r awdurdod hwnnw wedi ei chael—

a

o dan yr adran hon, a

b

fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

3

Caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a), (b) neu (c) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.

4

Yn ogystal â hynny, caiff awdurdod gorfodi ddefnyddio gwybodaeth o fewn is-adran (5)(a) neu (b) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”).

5

Yr wybodaeth yw honno—

a

sydd wedi ei darparu iddo gan awdurdod gorfodi arall o dan is-adran (1);

b

y mae’r awdurdod gorfodi wedi ei chael fel arall wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon;

c

y mae ganddo, yn rhinwedd adran 36 o Ddeddf 2014, ganiatâd i’w defnyddio at ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.

6

Nid yw adran 17(2) yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaethau a roddir i awdurdod gorfodi gan yr adran hon.

I10I23C119C1Pŵer awdurdod trwyddedu i ddwyn achos troseddol

Caiff awdurdod gorfodi sy’n awdurdod trwyddedu ddwyn achos troseddol mewn cysylltiad â throsedd yr honnir iddi gael ei chyflawni o dan y Ddeddf hon mewn cysylltiad ag annedd sydd wedi ei lleoli yn ei ardal (ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17(2)).

Cyfyngiadau ar derfynu gan landlord gontractau meddiannaeth safonol

I1120F1Cyfyngiadau ar derfynu contractau meddiannaeth safonol

Mae Atodlen 9A i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) yn cynnwys darpariaeth yn ymwneud â chontractau meddiannaeth safonol sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad yn ceisio meddiant o annedd o dan adran 173 neu 186 o’r Ddeddf honno, neu o dan gymal terfynu’r landlord, os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n ymwneud â thaliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw a gedwir.

Canllawiau i awdurdod trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014

I12I13C121C1Diwygio adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014

Yn adran 41 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (canllawiau o dan Ran 1 o’r Ddeddf), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

2A

Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.