C1RHAN 5ADENNILL SWM GAN DDEILIAD Y CONTRACT

Annotations:

I1I2C122C1Adennill taliad gwaharddedig neu flaendal cadw

1

Caiff person (yr “hawlydd”) wneud cais i’r llys sirol i adennill swm—

a

unrhyw daliad gwaharddedig a wnaed gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol;

b

unrhyw flaendal cadw a dalwyd gan yr hawlydd, neu ar ei ran, mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth safonol.

2

Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(a), os yw’r llys wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol—

a

bod taliad gwaharddedig wedi ei wneud gan yr hawlydd, neu ar ei ran, a

b

bod y taliad cyfan hwnnw eto i’w dalu i’r hawlydd, neu fod rhan o’r taliad hwnnw eto i’w thalu iddo,

orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y taliad neu (mewn achos pan fo rhan o’r taliad wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r taliad.

3

Caiff llys y gwneir cais iddo o dan is-adran (1)(b), os yw’r llys wedi ei fodloni, yn ôl pwysau tebygolrwydd—

a

bod blaendal cadw wedi ei dalu gan yr hawlydd neu ar ei ran, a

b

y methwyd ag ad-dalu’r blaendal cadw cyfan, neu ran ohono, i’r hawlydd yn unol ag Atodlen 2,

orchymyn ad-dalu i’r hawlydd, yn unol â’r gorchymyn, swm y blaendal cadw neu (mewn achos pan fo rhan o’r blaendal cadw wedi ei had-dalu) y swm sy’n weddill o’r blaendal cadw.

4

Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwaharddedig os yw achos troseddol wedi ei gychwyn yn rhinwedd adran 2 neu 3 mewn cysylltiad â’r taliad hwnnw, oni bai bod yr achos hwnnw wedi ei derfynu.

5

Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (2) neu (3) wneud ad-dalu swm yn ofynnol, os yw’r swm hwnnw wedi ei roi tuag at dalu rhent, neu’r blaendal sicrwydd, o dan y contract meddiannaeth safonol o dan sylw.