xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

24Gofyniad i awdurdod tai lleol hyrwyddo ymwybyddiaeth o effaith y DdeddfLL+C

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i wybodaeth fod ar gael yn gyhoeddus yn ei ardal, ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod yn meddwl sy’n briodol, am effaith y Ddeddf hon, gan gynnwys sut y gellir adennill taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw.

(2)Wrth wneud trefniadau at ddibenion yr adran hon, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2A. 24 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

F125Pŵer i wneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â thenantiaethau sicrLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

26Troseddau gan gyrff corfforaetholLL+C

(1)Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—

(a)uwch-swyddog i’r corff corfforaethol, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn uwch-swyddog i’r corff corfforaethol,

mae’r uwch-swyddog neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael achos llys yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2)Yn is-adran (1), ystyr “uwch-swyddog” yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol.

(3)Ond yn achos corff corfforaethol y mae ei aelodau yn rheoli ei faterion, ystyr “cyfarwyddwr” at ddibenion yr adran hon yw aelod o’r corff corfforaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I4A. 26 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

27RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaethau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 7, adran 13 neu baragraffau 2 neu 6 o Atodlen 1 (pa un a yw’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall o’r Ddeddf hon ai peidio) gael ei wneud oni bai bod drafft o’r rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I6A. 27 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

28DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I8A. 28 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

29Cymhwyso i’r GoronLL+C

(1)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i’r Goron.

(2)Nid yw unrhyw achos o dorri unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon yn gwneud y Goron yn atebol yn droseddol, ond caiff yr Uchel Lys ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred ar ran y Goron sy’n gyfystyr â thoriad o’r fath yn anghyfreithlon.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I10A. 29 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(b)

30Dod i rymLL+C

(1)Mae’r adran hon ac adran 31 yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 30 mewn grym ar 16.5.2019, gweler a. 30(1)

31Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 31 mewn grym ar 16.5.2019, gweler a. 30(1)