ATODLEN 1LL+CTaliadau a Ganiateir

RhentLL+C

1(1)Mae taliad rhent o dan gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.

(2)Ond, yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn, os yw swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol (“C1”) yn fwy na swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â chyfnod perthnasol arall (“C2”), mae’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 yn daliad gwaharddedig.

(3)Pan fo mwy nag un cyfnod perthnasol heblaw C1, C2 yw pa un bynnag o’r cyfnodau perthnasol eraill hynny y mae’r swm isaf o rent yn daladwy mewn cysylltiad ag ef.

(4)Mewn achos pan fo hyd un cyfnod perthnasol (C1) yn wahanol i hyd un arall (C2), er mwyn pennu—

(a)pa un a yw taliad gwaharddedig wedi ei wneud yn rhinwedd is-baragraff (2), a

(b)os felly, swm y taliad gwaharddedig,

mae’r camau a ganlyn i’w cymryd.

  • Cam 1

    Ar gyfer C1 ac C2 ill dau, mae cyfradd ddyddiol berthnasol (“CDdB”) y rhent i’w chyfrifo (ac yn achos swm nad yw’n rif cyfan mewn ceiniogau, yna wedi ei dalgrynnu i fyny i’r geiniog agosaf) drwy rannu cyfanswm y rhent ar gyfer y cyfnod â nifer y dyddiau yn y cyfnod.

  • Cam 2

    Os nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng CDdB pob cyfnod, nid oes unrhyw daliad gwaharddedig.

  • Cam 3

    Ond os yw’r CDdB ar gyfer C1 yn wahanol i honno ar gyfer C2, pennu pa un o’r cyfraddau yw’r isaf (y “CDdB is”) a pha un yw’r uchaf (y “CDdB uwch”).

  • Cam 4

    Ar gyfer pa bynnag gyfnod y mae’r CDdB uwch yn daladwy, cyfrifo swm y rhent a fyddai wedi bod yn daladwy ar ei gyfer pe byddai rhent wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw ar y CDdB is.

  • Cam 5

    Cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng swm y rhent a gyfrifwyd o dan Gam 4, a swm y rhent sy’n daladwy mewn gwirionedd mewn cysylltiad â’r cyfnod y mae’r CDdB uwch yn daladwy.

    Mae’r swm canlyniadol yn daliad gwaharddedig yn rhinwedd is-baragraff (2).

(5)Pan fo—

(a)rhent yn daladwy yn fisol mewn cysylltiad ag C1 ac C2, neu pan fo C1 ac C2 ill dau yn gyfnodau a gyfrifir drwy gyfeirio at yr un nifer o fisoedd calendr, a

(b)swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 ac C2 yr un fath,

mae C1 ac C2 i’w trin at ddibenion Cam 2 yn is-baragraff (4) fel pe bai ganddynt yr un CDdB.

(6)Rhaid diystyru unrhyw wahaniaeth rhwng y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad ag C1 a chyfnod perthnasol arall i’r graddau y mae’n deillio o amrywiad a ganiateir i’r rhent.

(7)Yn is-baragraff (6), ystyr “amrywiad a ganiateir”, mewn perthynas â rhent sy’n daladwy o dan gontract meddiannaeth safonol, yw amrywiad a wneir—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract;

(b)yn unol â theler yn y contract sy’n darparu ar gyfer amrywio’r rhent o dan y contract;

(c)gan ddeddfiad neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(8)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir) a gynhwysir yn un o’r canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan un o’r canlynol—

(i)Deddf Seneddol,

(ii)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth safonol, yw unrhyw gyfnod y mae rhent i’w dalu mewn cysylltiad ag ef.