Taliad mewn cysylltiad â gwasanaeth cyfathrebuLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
10(1)Mae taliad ar gyfer gwasanaeth cyfathrebu, neu mewn cysylltiad â hynny, yn daliad a ganiateir—
(a)os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a
(b)os caiff ei wneud mewn cysylltiad â’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.
(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “gwasanaeth cyfathrebu” yw gwasanaeth sy’n galluogi unrhyw un neu ragor o’r canlynol i gael ei ddefnyddio neu eu defnyddio—
(a)ffôn ac eithrio ffôn symudol;
(b)y rhyngrwyd;
(c)teledu cebl;
(d)teledu lloeren.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)