xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CTaliadau a Ganiateir

Blaendal cadwLL+C

4Blaendal cadw yw swm—

(a)a delir i landlord, neu i asiant gosod eiddo, cyn rhoi contract meddiannaeth safonol;

(b)a delir at ddiben cadw’r hawl i gael y cynnig cyntaf mewn perthynas â rhoi’r contract, yn ddarostyngedig i gynnal gwiriadau addasrwydd o ran darpar ddeiliad y contract, a chytundeb rhwng y partïon i ymrwymo i’r contract;

(c)nad yw’n fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)

I2Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)